Deialog Adeiladol gydag Undeb Amaethwyr Cymru
Fel rhan o’n hymgysylltiad parhaus, cyfarfu ein tîm yn ddiweddar â chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), gan gynnwys aelodau o Went a’r tîm polisi cenedlaethol. Canolbwyntiodd y sgwrs ar sut y gall ynni adnewyddadwy a ffermio cyd-fyw mewn ffyrdd sy’n cefnogi cymunedau gwledig, yn diogelu traddodiadau amaethyddol, ac yn cryfhau’r economi leol.
Cododd FUW gwestiynau ynghylch defnydd tir, budd cymunedol, a gwydnwch rhwng cenedlaethau. Roedd y drafodaeth wedi’i seilio ar flaenoriaethau a rennir o ran cynnal cynhyrchiant amaethyddol, cefnogi ffermydd teuluol, a sicrhau bod Cymru wledig yn ffynnu mewn dyfodol carbon isel.
Cyd-ddefnydd Amaethyddol: Pori a Phŵer Gwyrdd
Roedd cyd-ddefnydd amaethyddol yn thema allweddol, ac mae Future Energy Llanwern yn falch o gadw at ei hymrwymiad i barhau â phori defaid ar draws ein safleoedd solar— dull ymarferol a phrofedig o gynnal gweithgareddau amaethyddol drwy gydol oes weithredol y prosiect, sef 40 mlynedd.
Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd yr holl seilwaith yn cael ei dynnu a’r tir yn cael ei ddychwelyd i ffermio. Yn y cyfamser, mi fydd tirfeddianwyr leol yn elwa o incwm rhent sefydlog a hirdymor, gan gynnig gwydnwch ariannol mewn cyfnod heriol i deuluoedd amaethyddol.
Cafwyd cefnogaeth gref i ymrwymiad Future Energy Llanwern i ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc, drwy godi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa ynni adnewyddadwy, rheoli tir, a gofal amgylcheddol.
Edrych Ymlaen i’r dyfodol
Rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru am eu hamser, eu syniadau, a’u hadborth defnyddiol. Bydd eu cyfraniad yn helpu i lunio prosiect sy’n cyd-fynd â anghenion cymdeithasol ac economaidd Cymru wledig. Wrth i ni baratoi ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddeialog agored ac i adeiladu dyfodol lle mae ffermio ac ynni adnewyddadwy yn tyfu ochr yn ochr.