Dogfennau'r prosiect

Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (PEIR)

Cyhoeddwyd yr Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR) fel rhan o ymgynghoriad statudol Future Energy Llanwern, a gynhaliwyd rhwng 10 Rhagfyr 2025 a 15 Chwefror 2026.

Mae’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Ragarweiniol (PEIR) yn nodi ein canfyddiadau cynnar ynghylch effeithiau amgylcheddol sylweddol posibl prosiect Future Energy Llanwern (FEL). Mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ymgynghorwn, gan gynnwys y cyhoedd, i ddeall yr effeithiau tebygol ar y cam hwn, ac yn cefnogi’r ymgynghoriad cyn-cais ar gyfer y Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO). Mae hefyd yn adlewyrchu’r cynnydd diweddaraf yn yr Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA), y dyluniad a’r ymgynghoriad.

Mae fersiwn ar-lein ar gael fel y PEIR Digidol, sy’n cynnwys penodau, ffigurau ac atodiadau. Fe’i crynhoir yn y Crynodeb Annhechnegol (NTS), sef y lle gorau i ddechrau. Gellir cael mynediad at fersiynau dwyieithog o ddogfennau’r prosiect ar wefan Saesneg y prosiect, o dan adran “Dogfennau’r Prosiect”.

Mae fformatau amgen o’r deunyddiau ymgynghori hefyd ar gael ar gais.