Arwain y newid i ynni glân
Ynglŷn â’r Datblygwr
Mae NextEnergy Capital yn un o fuddsoddwyr solar arbenigol mwyaf y byd, wedi’i ysgogi gan ei genhadaeth i arwain y trawsnewid i ynni glân. Ers ei sefydlu yn 2007, mae NextEnergy Capital wedi bod yn weithgar ym maes datblygu, adeiladu a pherchnogi asedau cynhyrchu ynni solar ledled y byd, gan gyflwyno dros 3GW o gapasiti solar.
Mae NextEnergy Capital yn rhan o’r NextEnergy Group, sydd â phrofiad ac arbenigedd sylweddol ar draws cylch bywyd cyfan brosiectau solar ar raddfa fawr, gan gynnwys rheoli buddsoddiadau solar, rheoli asedau solar sy’n weithredol, a datblygu prosiectau solar.
Mae NextEnergy Capital yn rheoli $3.9 biliwn o asedau solar ledled y byd, a hyd yma mae wedi naill ai gaffael neu adeiladu dros 400 o asedau solar o ansawdd uchel.
Mae asedau NextEnergy Capital yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gynhyrchu trydan glân. Yn yr ardaloedd lle mae’r asedau hyn wedi’u lleoli, mae’r economïau a’r cymunedau lleol yn elwa, gyda hanes profedig o gyflawni hyn yn Ne Cymru.
Yn ogystal â hyn, mae NextEnergy Capital yn hyrwyddo bioamrywiaeth leol, gan drawsnewid seilwaith ynni yn gyfle buddiol i’r amgylchedd.