Buddsoddi yn nyfodol Cymru

“Mae Llywodraeth Cymru yn gryf o blaid egwyddor datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel o bob technoleg ac ar bob graddfa er mwyn diwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol. 

Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel, rhaid i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau roi cryn ystyriaeth i’r angen i gyflawni ymrwymiadau rhyngwladol Cymru a’n targed i gynhyrchu 70% o’r trydan a ddefnyddir mewn modd cynaliadwy erbyn 2030 er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Cymru’r Dyfodol 2040 (polisi 17)

Ynni Gwyrdd

Bydd y cynigion yn darparu tau 380 MW – digon i bweru 108,000 o gartrefi – sy’n cyfateb i gyfanswm y galw o ran pŵer ar gyfer cartrefi Casnewydd a Sir Fynwy gyda’i gilydd. Mae hefyd yn gyfystyr â bodloni cyfanswm y galw am bŵer o 8% o’r 1.3 miliwn o gartrefi yng Nghymru.

Adfer Natur

Bydd y cynigion yn ceisio gwyrdroi dirywiad y ffosydd draenio SoDdGA o’u “statws anffafriol” dros gyfnod hir i “statws ffafriol” a sicrhau enillion net bioamrywiaeth i gefnogi amcanion Adfer Natur Cymru. Bydd y cynllun yn gadael gwaddol cadarnhaol i fywyd gwyllt.

Tlodi Tanwydd yng Nghymru

Mae cyfyngiadau byd-eang ar gyflenwadau nwy a achoswyd gan ryfel Wcráin wedi cyfrannu at y cynnydd enfawr mewn prisiau ynni sy’n effeithio ar bob cartref.

Yn ôl amcangyfrifon diweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd hyd at 45% (614,000) o holl aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd yn dilyn cynnydd cap prisiau mis Ebrill 2022. Amcangyfrifwyd bod hyd at 8% (115,000) o aelwydydd mewn tlodi tanwydd difrifol. Bydd gwneud y mwyaf o faint yr ynni a gynhyrchir yma yng Nghymru yn cryfhau diogelwch ynni’r genedl, sy’n hanfodol bwysig er mwyn atal tlodi tanwydd rhag gwaethygu ymhellach.

Flooded farmland in Monmouthshire

Diogelwch Bwyd

Newid hinsawdd yw’r prif risg yn y tymor canolig i hir o ran cynhyrchu ynni yn y DU, yn enwedig ar dir isel sy’n debygol o orlifo yn sgil y cynnydd yn lefel y môr.  Mae yna bwysau amgylcheddol eraill hefyd fel diraddiad pridd, ansawdd dŵr a bioamrywiaeth. Bydd y fferm solar yn cyfrannu’n gadarnhaol at fynd i’r afael â’r effeithiau hyn, yn ogystal â chefnogi 27 o deuluoedd ffermio lleol yn ariannol trwy rent tir. Bydd hefyd yn golygu bod y safle cyfan yn dal i allu cael ei bori gan ddefaid.

Swyddi yng Nghymru

Amcangyfrifir y bydd y cynigion yn creu gwaith i tua 5,000 o weithwyr a chontractwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys tua 200 o swyddi newydd a grëir drwy ehangu busnesau lleol.

Installer fixing solar panels to framework

Economi Cymru

Amcangyfrifir y bydd £13.5 miliwn yn cael ei gyfrannu at fusnesau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu.

Buddsoddi yn nyfodol Redwick

Gwefru cerbydau trydan am ddim

Mae’r cynllun yn bwriadu darparu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan a fydd yn darparu gwasanaeth gwefru am ddim i drigolion lleol gyda thrydan a gynhyrchir yn uniongyrchol o’r fferm solar. 

Playground built for community benefit

Buddsoddiad hirdymor yn y gymuned

Bydd refeniw o werthu trydan yn cael ei rannu gyda’r gymuned leol, a gellir ei ddefnyddio i ariannu prosiectau lleol a thalu costau ynni. Darperir swm blynyddol o £250,000, sy’n cyfateb i £10 miliwn dros oes 40 mlynedd y cynllun.

2024
Gaeaf
Lansiad Cyhoeddus
Gaeaf
Ymgynghoriad Anstatudol
Gaeaf
Adroddiad Cwmpasu wedi’i Gyflwyno
2025
Gaeaf
Cyflwyno’r Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol (PEIR)
25/26
Gaeaf
Ymgynghoriad Statudol
2026
Haf
Ymgynghoriad Targedig
Hydref / Gaeaf
Cyflwyno’r Gorchymyn Caniatâd Datblygu (DCO)

Mae’r llinell amser yn adlewyrchu’r rhaglen ragamcan cyfredol ar gyfer y prosiect. Mae’r dyddiadau a’r cerrig milltir yn ddangosol a gallant newid wrth i’r prosiect ddatblygu.

Gallwch hefyd ddarllen rhagor o wybodaeth am y Cais ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.