Gweledigaeth Ar Y Cyd ar gyfer Cymru Wledig

Mae Future Energy Llanwern yn falch o gadarnhau bod cynlluniau'n parhau ar gyfer fferm solar ar raddfa gwasanaethu hyd at 380 MW, wedi'i lleoli ar dir i'r de o Waith Dur Llanwern, ger Casnewydd. Fel Prosiect Seilwaith Arwyddocaol Genedlaethol (NSIPau), mi fydd y datblygiad yn cynhyrchu digon o ynni glân i bweru tua 108,000 o gartrefi—sy’n cyfateb i gyfanswm y defnydd domestig yng Nghasnewydd a Sir Fynwy, neu tua 8% o holl gartrefi Cymru.

Deialog Adeiladol gydag Undeb Amaethwyr Cymru  

Fel rhan o’n hymgysylltiad parhaus, cyfarfu ein tîm yn ddiweddar â chynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru (FUW), gan gynnwys aelodau o Went a’r tîm polisi cenedlaethol. Canolbwyntiodd y sgwrs ar sut y gall ynni adnewyddadwy a ffermio cyd-fyw mewn ffyrdd sy’n cefnogi cymunedau gwledig, yn diogelu traddodiadau amaethyddol, ac yn cryfhau’r economi leol. 

Cododd FUW gwestiynau ynghylch defnydd tir, budd cymunedol, a gwydnwch rhwng cenedlaethau. Roedd y drafodaeth wedi’i seilio ar flaenoriaethau a rennir o ran cynnal cynhyrchiant amaethyddol, cefnogi ffermydd teuluol, a sicrhau bod Cymru wledig yn ffynnu mewn dyfodol carbon isel. 


Cyd-ddefnydd Amaethyddol: Pori a Phŵer Gwyrdd  

Roedd cyd-ddefnydd amaethyddol yn thema allweddol, ac mae Future Energy Llanwern yn falch o gadw at ei hymrwymiad i barhau â phori defaid ar draws ein safleoedd solar— dull ymarferol a phrofedig o gynnal gweithgareddau amaethyddol drwy gydol oes weithredol y prosiect, sef 40 mlynedd. 

Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, bydd yr holl seilwaith yn cael ei dynnu a’r tir yn cael ei ddychwelyd i ffermio. Yn y cyfamser, mi fydd tirfeddianwyr leol yn elwa o incwm rhent sefydlog a hirdymor, gan gynnig gwydnwch ariannol mewn cyfnod heriol i deuluoedd amaethyddol. 

Cafwyd cefnogaeth gref i ymrwymiad Future Energy Llanwern i ymgysylltu ag ysgolion a phobl ifanc, drwy godi ymwybyddiaeth o lwybrau gyrfa ynni adnewyddadwy, rheoli tir, a gofal amgylcheddol.  


Edrych Ymlaen i’r dyfodol  

Rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb Amaethwyr Cymru am eu hamser, eu syniadau, a’u hadborth defnyddiol. Bydd eu cyfraniad yn helpu i lunio prosiect sy’n cyd-fynd â anghenion cymdeithasol ac economaidd Cymru wledig.  Wrth i ni baratoi ein cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, rydym yn parhau’n ymrwymedig i ddeialog agored ac i adeiladu dyfodol lle mae ffermio ac ynni adnewyddadwy yn tyfu ochr yn ochr.